#

Y Pwyllgor Deisebau | 15 Ionawr 2019
 Petitions Committee | 15 January 2019
 ,Deiseb: P-05-858 - Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian! 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-858

Teitl y ddeiseb: Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!

Testun y ddeiseb:

​Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio paragraff 2.6 o Ddogfen Gymeradwy B mewn ffordd sydd yn ei gwneud yn orfodol bod dyluniad, gosodiad a chynnal a chadw systemau preswyl a domestig ar gyfer ataliad tân yn cael ei gynnal gan neb ond pobl sy’n aelodau o gynlluniau ardystio trydydd parti priodol. Bydd hyn yn sicrhau y caiff systemau arbed bywyd o’r fath eu dylunio, eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n gywir gan bobl sydd â’r cymwyseddau addas. Yn anffodus, nid felly y mae ar hyn o bryd.

Y cefndir

Rheoliadau Adeiladu

Gwnaed Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y’i diwygiwyd) o dan bwerau a ddarparwyd yn Neddf Adeiladu 1984 (fel y’i diwygiwyd) ac maent yn cwmpasu adeiladu adeiladau newydd ac addasu neu ymestyn adeiladau presennol.

Mae Rheoliadau Adeiladu yn ymwneud â’r ffordd y mae adeilad wedi’i adeiladu, ei sefydlogrwydd strwythurol, y modd dianc ohono a rhagofalon tân, pa mor dda y mae’n gwrthsefyll y tywydd, ei gadwraeth ynni, i ba raddau y mae wedi’i inswleiddio’n dda, y mynediad ar gyfer pobl ag anableddau a chyfleusterau ar eu cyfer ynddo.

Darperir canllawiau technegol ar sut i gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu mewn cyfres o ‘Ddogfennau Cymeradwy‘.

Systemau atal tân awtomatig

Mae Dogfen Gymeradwy Rhan B ar gyfer Cymru yn darparu canllawiau technegol ar Reoliadau Adeiladu a diogelwch tân. 

Cyhoeddir Dogfennau Cymeradwy o dan y Rheoliadau Adeiladu mewn ffurfiau ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr. Llywodraeth y DU sy’n cyhoeddi’r Dogfennau Cymeradwy ar gyfer Lloegr a Llywodraeth Cymru sy’n eu cyhoeddi ar gyfer Cymru. Mae’r Dogfennau Cymeradwy Rhan B ar gyfer Cymru a Lloegr wedi argymell y dylid gosod taenellwyr tân, neu systemau atal tân eraill, mewn adeiladau preswyl newydd, fel arfer sydd â phedwar llawr neu ragor, yng Nghymru a Lloegr er 2007 (er bod y Ddogfen Gymeradwy Rhan B ar gyfer Cymru wedi’i diwygio ers hynny er mwyn ymdrin â’r gofyniad i osod taenellwyr tân, fel y disgrifir isod).  

Gan weithredu o fewn maes datganoledig diogelwch tân, pasiodd y Cynulliad Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011. Fe’i gweithredwyd gan y Rheoliadau Adeiladu &c. (Diwygiad Rhif 3) a Rheoliadau Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2013, a wnaeth systemau llethu tân awtomatig (h.y. taenellwyr tân) yn orfodol yng Nghymru ar gyfer cartrefi gofal ac ystafelloedd penodol at ddibenion preswyl ers 30 Ebrill 2014, ac ar gyfer anheddau newydd ers 1 Ionawr 2016.

Nid oes gofyniad i osod taenellwyr yn ôl-weithredol mewn tai a adeiladwyd cyn 1 Ionawr 2016.

Cydymffurfio a gorfodi

Cyrff Rheoli Adeiladu sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Rheoliadau Adeiladu.

Mae dau fath o Gorff Rheoli Adeiladu, sef adrannau Rheoli Adeiladu awdurdodau lleol, ac Arolygwyr Cymeradwy y sector preifat. Mae gan ddatblygwr yr opsiwn o ddewis un o’r ddau fath o gorff Rheoli Adeiladu i sicrhau bod gwaith adeiladu yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.

Mae gan adrannau Rheoli Adeiladu awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i sicrhau bod gwaith adeiladu yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu, a byddant yn ceisio gwneud hynny drwy ddulliau anffurfiol pan fydd hynny’n bosibl. Os na fydd gorfodaeth anffurfiol yn effeithiol, mae gan yr awdurdod lleol bwerau gorfodi y gall eu defnyddio.

Gosod systemau atal tân awtomatig

Mae paragraff 2.6 o Ddogfen Gymeradwy Rhan B ar gyfer Cymru yn nodi:

... It is essential that automatic fire suppression systems are properly designed, installed and maintained. Where an automatic fire suppression system is installed, an installation and commissioning certificate should be provided. Third party certification schemes for fire protection products and related services are an effective means of providing the fullest possible assurances, offering a level of quality, reliability and safety.

Cafodd y Pwyllgor lythyr oddi wrth Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, mewn cysylltiad â’r ddeiseb hon ar 5 Rhagfyr 2018. Mae’r llythyr yn nodi:

As guidance [referring to Approved Document B] , it is possible for compliance with the requirements of the building regulations to be met in some other way, other than third party accreditation, such as proving competence of installing and commissioning fire suppression systems to the building control body (local authority building control or private approved inspector), even though not registered with a third party certification scheme.

Adolygiad Hackitt

Yn dilyn tân Tŵr Grenfell comisiynodd Llywodraeth y DU Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân yn Lloegr. Y Fonesig Judith Hackitt a arweiniodd yr Adolygiad.

Cyhoeddwyd adroddiad interim ar 18 Rhagfyr 2017 a’r adroddiad terfynol ar 17 Mai 2018. Nododd yr adroddiad interim nad yw’r system bresennol o Reoliadau Adeiladu a diogelwch tân yn addas i’r diben a bod angen newid diwylliant i gefnogi darpariaeth adeiladau sy’n ddiogel, a hynny yn awr ac yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad terfynol yn ehangu’r casgliad hwn ac yn cynnig fframwaith rheoleiddiol newydd i fynd i’r afael â’r gwendidau yn y system, i sicrhau bod ffocws cryfach ar greu a chynnal adeiladau diogel.

Camau Llywodraeth Cymru

Er bod Adolygiad Hackitt wedi’i gomisiynu yng nghyd-destun systemau Rheoliadau Adeiladu a diogelwch tân yn Lloegr, mae’r systemau yng Nghymru yn debyg iawn. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i argymhellion Dame Judith ac amlinellodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, ei hymateb cychwynnol mewn datganiad ysgrifenedig ar 23 Mai 2018. Cadeiriodd y Gweinidog grŵp arbenigol i ddatblygu’r argymhellion i ddod yn gyfraith, yn bolisïau ac yn newidiadau i arferion yng Nghymru. Disgwylir y bydd cynllun manwl ar gyfer gweithredu’r argymhellion ar waith yn y flwyddyn newydd.

Er bod argymhellion y Fonesig Judith yn cyfeirio at adeiladau deg neu ragor o loriau, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn canolbwyntio ar adeiladau saith llawr neu ragor.

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, nododd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd y canlynol:

Fire suppression systems form a crucial part in the fire safety provisions within buildings, particularly in high rise buildings. We will therefore investigate, as part of this work [the Welsh Government’s plan for implementing changes discussed above] , whether there is sufficient evidence to justify that those registered with third party certification schemes should be considered as the only method of meeting compliance with the requirements of the building regulations for the installation and commission of fire suppression systems.

Camau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bu llawer o drafod yn y Cynulliad ar fater systemau atal tân awtomatig, a diogelwch tân yn fwy cyffredinol, yn sgîl tân Tŵr Grenfell. Mae hyn yn cynnwys gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a arweiniodd at gyhoeddi ei adroddiad, sef Diogelwch tân mewn adeiladau (preswyl) uchel iawn (sector preifat) ym mis Tachwedd 2018. Fodd bynnag, nid oes dim o’r trafodaethau hyn wedi canolbwyntio’n benodol ar p’un a ddylai ardystiad trydydd parti fod yn orfodol ar gyfer pobl sy’n gosod systemau atal tân ac yn eu comisiynu.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.